Croeso i wefan Côr Meibion Maelgwn...
2022: Blwyddyn brysur i Gôr Meibion Maelgwn Ar ôl cwpl o flynyddoedd anodd iawn i’r holl aelodau, ffrindiau a chynulleidfaoedd, rydym yn falch iawn o allu dweud bod Côr Meibion Maelgwn wedi cael blwyddyn lwyddiannus iawn yn 2022. Ar ôl i COVID-19 daro fe gollon ni sawl aelod ffyddlon a gwerthfawr i achosion COVID ac achosion eraill; buom heb Gyfarwyddwr Cerdd am gyfnod; ac, wrth gwrs, ni allem gyfarfod i ymarfer nac ymwneud â chyngherddau o flaen cynulleidfaoedd. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn falch iawn o allu cyhoeddi bod Sian Bratch (ein Cyfeilydd am ddeng mlynedd ar hugain) wedi derbyn rôl Cyfarwyddwr Cerdd yn ystod y flwyddyn, ac wedi ein harwain ymlaen fel ein bod wedi gallu cyflawni rhyw ddeg ar hugain o ymrwymiadau y llynedd. Yn 2022 buom yn canu mewn nifer o ddigwyddiadau gwahanol: yn gynnar yn y flwyddyn buom yn canu yn agoriad siop newydd Marks & Spencer ym Mharc Llandudno. Roedd croeso mawr i’r coffi a chacennau a ddarparwyd gan M&S! Roedd digwyddiadau eraill yn golygu ein bod yn falch iawn o gael ein gwahodd i ddychwelyd i Westy Tynedale , lle rydym yn diddanu gwesteion y gwesty gydag amrywiaeth o'n heitemau, a dychweliadau tebyg i Eglwys Sant Ioan , a'r Strafagansâu Fictoraidd a Nadoligaidd yn Llandudno. Braf hefyd oedd gweld twristiaid Americanaidd yn dychwelyd, fel ein bod yn gallu diddanu teithwyr o ddwy long fordaith yn ymweld â Gogledd Cymru, ac o’r diwedd cawsom ddychwelyd at ein harfer o ymweld â chartrefi preswyl ac elusennau eraill yr ardal i ganu carolau tra'n gwisgo siwmperi Nadolig gwirion! |
Cronfa argyfwng Tŷ CerddMae Côr Meibion Maelgwn yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn arian grant argyfwng Tŷ Cerdd: ailgychwyn. Bwriadwn ddefnyddio’r arian tuag at gostau ystafell ymarfer hyd y gallwn ennill arian trwy gynnal cyngherddau ayyb. Rydym yn ddiolchgar iawn i Tŷ Cerdd am eu cymorth i gael yr arian, ac yn dangos ein gwerthfawrogiad am eu cymorth drwy osod eu logo ar ein gwefan. |
Arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru Mae Côr Meibion Maelgwn yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru:Cefnogi sefydliadau celf. |
Côr meibion Maelgwn yn gobeithio gweld diwedd argyfwng Covid-19Mae Côr meibion Maelgwn yn gobeithio gweld diwedd argyfwng Covid-19 , ac yn edrych ymlaen i’r dyfodol pan allwn ail-ddechrau ein rhaglen ymarfer a chyngherddau arferol. |
Cyngerdd Gŵyl DewiRoedd yna dorf dda yn ein cyngerdd Gŵyl Dewi nos Wener diwethaf. Roedd Elgan ar y brig fel unawdydd, wrth gwrs. |
Diddanu AmericanwyrErs rhai blynyddoedd mae y côr wedi diddanu partion o dros ddau gant o Americanwyr oddiar longau criwisio yn ystod eu hymweliad â Gogledd Cymru ac eleni eto yn ystod Misoedd Mai a Mehefin bydd y côr yn canu i bartion yn Eglwysi St Mary’s, Conwy a St John’s, Llandudno. |
Penwythnos Gymreig yng Ngwesty TynedaleYn flynyddol pob Ebrill mae y côr yn cymryd rhan mewn penwythnos Gymreig yng Ngwesty Tynedale, Llandudno ac bydd y côr eto yn diddanu gwesteion ar dri penwythnos yn ystod y mis. Mae yn gyfle gwych i ymwelwyr i Landudno o wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig gael profiad o ganu Côr Meibion Cymraeg. Adloniant hwyliog dros ben. |
Dathliad Gŵyl Dewi ffantastic neithiwrDathliad Gŵyl Dewi ffantastic neithiwr (Nos Sadwrn Mawrth 2ail) yn Eglwys St John’s,Llandudno, yng nghwmni Stephan Lloyd Owen, Baritone a Celyn Llwyd Cartwright, Soprano. Yr Eglwys yn orlawn a’r gynilleidfa a oedd yn ymwelwyr o Awstralia, Yr Almaen a‘r Unol Daliaethau, yn mwynhau canu o safon uchel gan yr unawdwyr a Chôr Maelgwn, dan arweiniad Mererid Mair. Noson i’w chofio a phawb wedi mwynhau eu hunain yn arw iawn. |
Bydd 2020 yn flwyddyn arbennig i’r côr; byddwn yn dathlu ein Jubilee!Bydd 2020 yn flwyddyn arbennig i’r côr; byddwn yn dathlu ein Jubilee! Mae’r planio i ddathlu’r flwyddyn wedi dechrau yn barod a gobeithiwn drefnu a llwyfanu gweithgareddau arbennig i ddathlu y flwyddyn. Bydd manylion y gwahanol weithgareddau yn cael eu cyhoeddi ar y wefan yma. |
Mae 2019 yn edrych fel blwyddyn brysurMae 2019 yn edrych fel blwyddyn brysur eto i’r côr ac mae yr ymrwymiadau sydd yn barod wedi eu cadarnhau, gyda mwy ar y gorwel,i’w gweld ar y wefan yma.Fe fydd y côr hefyd yn brysur yn cefnogi Eisteddfod Genedlaethol Conwy. |
Canu CarolauFel mae’r Nadolig yn agosau bydd y côr unwaith eto yn crwydro’r ardal yn canu carolau, yn cynnwys Hafan Gwydir Gofal Arbennig, Llanrwst am 3 o’r gloch Dydd Mawrth Rhagfyr 4ydd ac hefyd Cartref Llys Elian, Hen Golwyn, am 7.30pm Dydd Iau Rhagfyr 6ed. |
Digwyddiadau'r HafMae gymaint o ddigwyddiadau cerddorol wedi digwydd dros yr haf fel eu bod yn amhosib eu rhestru i gyd yma. Er toriad o seibiant Mis Awst, mae’r côr wedi canu mewn nifer o gyngherddau, yn cynnwys codi arian at yr Eisteddfod yng Nghonwy yn 2019 ac hefyd priodas. Yn arbennig bu’r cor yn canu yn Seremoni Agoriadol Federashiwn Gwyddbwyll y Byd yn Llandudno, lle ‘roedd chwareuwyr gwyddbwyll yn bresennol o’r Unol Daleithiau America, Africa a gwledydd ar draws Ewrop. Eu gobaith oedd cael blas ar Gymru drwy ganu Côr Meibion Cymraeg ac fei boddhawyd yn arw iawn. Mae’r côr yn brysur yn paratoi at eu Cyngerdd Blynyddol yn Venue Cymru Nos Sul, Medi 23ain, gyda’r tenor Wynne Evans ac Elin Fflur, y gantores o Fôn. Mae’r ticedi yw cael o Venue Cymru. |
Dathlu Penblwydd ArbennigBu y côr yn dathlu penblwydd arbennig Mrs Olwen Davies, Fferm Marl, Cyffordd Llandudno yn 90 oed Nos Sadwrn Mai 5ed, 2018. Diddanodd y côr dros 200 o westeion gyda darnau o ddewisiad Mrs Davies a chafwyd noson hwyliog a chynnes. |
Cyngerdd Gŵyl DewiCyngerdd Gŵyl Dewi y côr wedi ei aildrefnu i Nos Sul Mawrth 18ed yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Stryd Mostyn, Llandudno am 7.30pm. Gweler Digwyddiadau. |
Cyngerdd yn Eglwys St Martin’sBydd y côr yn cynnal cyngerdd yn Eglwys St Martin’s, Eglwysbach, Nos Sadwrn Mawrth 24ain Dechreuir am 7.30pm a phris ticed yw £8 yw cael wrth y drws. |
£200 to Awel-y-Mynydd SchoolThe choir presented £200 to Awel-y-Mynydd School, Llandudno Junction, towards their travelling and overnight costs whilst competing at the 2017 Urdd Eisteddfod in Bridgend. The choir has a long association with the old school, Maelgwn, where the choir holds its practice sessions and the choir was very pleased to show their appreciation to the school and wish them every success at the Eisteddfod. John Williams, Treasurer and Vide-President of the choir presenting the cheque |
Upcoming events (Saesneg yn unig)The choir will be holding its Annual Concert at Venue Cymru on Sunday, 23.7.17. The principal guest soloist will be the renowned singer and broadcaster Aled Jones, together with the Canwy Music School. |
Update (Saesneg yn unig)On Saturday, 10.6.17, the Choir sang at Christ Church Heaton Bolton. It was the choir’s first visit to Bolton and the church was absolutely full with many of the audience never having actually seen a live performance by a Welsh Male Voice Choir before. The choir received a standing ovation which capped a brilliant evening enjoyed by everyone. |
Update (Saesneg yn unig)Following a busy year, the choir’s diary is rapidly filling up and 2017 has all the makings of another busy year. Keep visiting our web-site for more information. |
Siec i Hosbis Dewi SantYn dilyn cyngerdd gyda Chôr The Gentlemen Songsters yn Eglwys St John’s, Llandudno, cyflwynodd y côr siec am £1500 i Hosbis Dewi Sant. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth. |
Cyngerdd Elusennol21.5.16 - Cyngerdd hwyliog a llwyddiannus yn Eglwys St John’s, Llandudno, ar y cyd â Chôr The Gentlemen Songsters o Ganolbarth Lloegr, er budd Hosbis Dewi Sant, Llandudno. Yr Eglwys yn orlawn a’r gynnulleidfa yn mwynhau y ddau gôr ac hefyd yr unawdydd o Gaernarfon. Cannodd duet gydai chwaer Mererid Mair, Cyfarwyddwr Cerdd y Côr. Gobeithir cyflwyno rhai cannoedd o bunoedd i’r Hosbis. Mae’r côr yn dymuno diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth. |
Presentation (Saesneg yn unig)At it’s weekly rehearsal on Monday 25.4.16, our Chairman Arfon Williams presented Glynne Edwards, with the Cup presented annually to the chorister who has attended the most number of musical engagements. |
Cyngerdd Gwyl DewiNoson wych a gwefreiddiol Nos Sul 28.2.16, yn dathlu Cyngerdd Gwyl Dewi Côr Maelgwn a ffarwelio â Trystan, ein Cyfarwyddwr Cerdd, yng Nghapel Seilo, Llandudno. Côr Maelgwn ar ei orau a’r capel yn orlawn i’r entrychion gyda dros 700 yn y gynulleidfa yn mwynhau perfformiadau treiddgar Meinir Wyn Roberts ac Elgan Llyr Thomas, gyda chyfraniad hyfryd Côr Meibion Aberystwth. Noson a fydd ar y cof am amser maith |
Cyngerdd Gwyl DewiBydd y côr yn cynnal eu Cyngerdd Gwyl Dewi yng Nghapel Seilo, Llandudno, am 7yh Nos Sul 28.2.16. Yn ogystal, fe fydd yn gyngerdd ffarwelio â Trystan, ein harweinydd am 15eg mlynedd. Bydd Côr Meibion Aberystwyth yn ymuno â’r côr ar unawdwyr fydd Elgan Llyr Thomas (Tenor) a Meinir Wyn Roberts (Soprano). Pris ticedi yw £10 ar gael gan Glyn Jones – 01492 879041. |
Diwedd Tymor Cyngherddau eleniNos Iau diwethaf, Hydref 29ain, fe ddaeth Côr Maelgwn a thymor cyngherddau Côrau Meibion yn Eglwys hyfryd St Ioan, Llandudno, i ben am eleni. Yn ystod y tymor bu i rhyw 10,000 o bobl wrando ar y côrau, sydd yn gwneud y cyngherddau yma yn uchafbwynt eu harosiad yn Llandudno. Wyddoch chwi fod y cyngherddau yma yn rhif 9 o bethau i’w gwneud yn Llandudno! Bydd Côr Maelgwn yn agor tymor gôrawl 2016 ar Nos Iau, Mai 5ed ac edrychwn ymlaen i weld ein cefnogwyr ffyddlon a chroesawu rhai newydd. |
Y Côr yn Noddi Unawd Piano 16-19 oed yn yr Eisteddfod GenedlaetholMae y côr yn noddi Unawd Piano 16-19 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol, er côf am Davy Jones, cyn-arweinydd y côr, a’r ennillydd yn Meifod eleni oedd Math Roberts, Cwm-y-Glo, Caernarfon. Yn ail Gwenno Morgan, Bangor ac yn 3ydd Elain Rhys Jones, Bodedern. Llongyfarchiadau i’r tri. |
Yng Nghyngerdd Blynyddol y Côr yn Venue Cymru Llandudno, Nos Sul Medi 20ed cyhoeddodd Trystan Lewis ei fod yn ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Cerdd y côr.‘Roedd y cyngerdd hynod o lwyddiannus, a fwynhawyd gan gynilleidfa o gannoedd, yn achlysur haeddiannol i Trystan gyhoeddi ei ymddiswyddiad ar ôl 20 mlynedd o aelodaeth o’r côr, y 15ed ola fel Cyfarwyddwr Cerdd . Yn ystod y cyfnod yma ennilliodd y côr ddwywaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yng Ngwyl Flynyddol Côrau Gogledd Cymru ac yn derfynwyr yng Nghystadleuath Côrau y BBC. Arweiniodd y côr mewn dros 1000 o gyngherddau a gwahanol achlysuron a seremoniau swyddogol. Yn ychwanegol bu y côr yn canu dros y byd yng ngwledydd fel Canada, Iwerddon, Israel, Ffrainc, Slovenia, Iseldiroedd ac yr Almaen. Mae gan y côr barch mawr at Trystan, fel ffrind ac fel arweinydd, ac wrth ddymuno y gorau iddo, fei collir yn fawr iawn. Mae y côr yn hynod o falch o gyhoeddi fod Mererid Mair, B.Mus, MA, wedi derbyn gwahoddiad i fod y Cyfarwyddwr Cerdd newydd. Mae Mererid yn hanu o Gaernarfon ac wedi bod yn gyfeilydd i’r côr ers 2001. |
Taith i Stuttgart, Yr AlmaenYn gynnar fore Dydd Iau, Awst 27ain, 2015, bydd y Côr, gyda’i gwragedd, partneriaid a ffrindiau, yn hedfan allan o faes awyr Manceinion ar daith ganu i Stuttgart yn yr Almaen. Fe fydd y côr yn aros yn Esslingen, ger Stuttgart am 4 diwrnod ac yn canu yn Alte Schloss, Stuttgart a Burg Esslingen. Fe fydd y côr hefyd yn ymweld â Heidelberg, un o ddinasoedd prydfertha’r Almaen ac hefyd Ludwigsburg, a adnabyddir fel “Versailles Swabia” a’c, i ddod ar daith i ben, bydd y côr yn mwynhau cinio Almaeneg ac yn bur debyg cynnal cyngerdd difyfyr Cymreig! |
Ambiwlans Awyr Cymru – codi arianCerddodd aelodau o’r côr gyda’i gwragedd a ffrindiau, o gwmpas Llyn Crafnant yn Nyffryn Conwy yn ddiweddar, i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mwynhaodd y cerddwyr daith o dair milltir ar ddiwrnod braf a sych ac fe fyddant yn cyflwyno siec o £1600 i’r Ambiwlans Awyr. Llun o rhai o’r cerddwyr yn cael seibiant ar y daith. |
Awyr las//teamirfonMae’r côr wedi cyflwyno £500 i Irfon Williams o Fangor at ei ymgyrch i godi arian i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. ‘Roedd taid Irfon yn Sarjant gyda’r heddlu yn ardal Conwy ac yn aelod o’r côr. Bu Eirlys, mam Irfon, yn unawdydd gyda’r côr. |