Croeso i wefan Côr Meibion Maelgwn...
7fed Mawrth:
Côr Meibion Maelgwn yn gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn cynnal ein Cyngerdd Rhyngwladol cyntaf y flwyddyn ar y cyd gyda'r Virginia Glee Club o UDA. Cynhelir y cyngerdd ar Fawrth 7fed am 7pm yn Eglwys St. Paul, Craig-y-Don LL30 1TP, tocynnau £7.50.
Sefydlwyd y Virginia Glee Club ym 1871 ym Mhrifysgol Virginia. Mae’n gôr meibion yn perfformio gweithiau traddodiadol a chyfoes. Hon fydd eu taith ryngwladol gyntaf ers 2016, a byddant yn ymweld â Manceinion, Caerdydd, Llundain …….a Llandudno!
Bydd ein perfformiad ar y cyd hefyd yn cynnwys Côr Ysgol Bodafon , a bydd yn rhoi profiad gwych o ganu i blant yr ysgol gyda dau Gôr Meibion enwog.
Ni fydd Côr Maelgwn na’r Glee Club yn codi tâl am eu hymddangosiadau yn y cyngerdd hwn, a bydd yr holl elw yn cael ei roi i’r gronfa ar gyfer boeler newydd yr eglwys.
Dewch draw i fwynhau profiad cerddorol unigryw!
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cael gwahoddiad i ddarparu lleisiau Côr Meibion yn operetta newydd Opera Cenedlaethol Cymru o'r enw 'Blaze of Glory' yn Venue Cymru .
Cyngerdd arall ar y cyd, y tro hwn gyda Chôr Heinz o Brifysgol Pittsburgh, yn Eglwys Sant Ioan.
Bydd y Côr Pan-Ewropeaidd yn aros yng Nghonwy am rai dyddiau ac rydym yn edrych ymlaen at eu cyfarfod a hefyd i lwyfannu cyngerdd ar y cyd, mae’n debyg yng Nghonwy.
Mwy o ddyddiadau cyffrous i ddilyn!
Mae côr meibion Maelgwn yn dechrau llenwi dyddiadur 2023, gan gynnwys mordeithwyr Americanaidd ac yn edrych ymlaen at ail ddechrau ein cyngherddau rheolaidd yng Ngwesty Tynedale ac Eglwys Sant Ioan, Llandudno ymhlith eraill.