Mae cefndir Laura yn Ymgynghoriaeth Gwyliau a gyda’i gŵr Lloyd, sydd yn aelod o’r côr, mae wedi trefnu llawer o deithiau cyngerdd llwyddianus i’r côr. Mae y teithiau yma yn cynnwys Israel, Canada, Unol Daleithiau’r America, Slovenia a Llydaw.
Is-lywydd
John N. Williams
Brodor o Drelogan, Sir Fflint, yw John a bu yn ddisgybyl yn Ysgol Ramadeg Treffynnon. Derbyniodd radd B.Sc. (Cemeg) o Brifysgol Abertawe, a bu yn athro yn y Wyddgrug a chyn ymddeol yn Ysgol John Bright, Llandudno. Mae John yn briod â Maureen, ei hun yn gyn athrawes ac mae ganddynt ddwy ferch.
Ymunodd John â Chôr Maelgwn yn 1974 ac ers 1980 mae wedi bod yn Drysorydd y côr.
Is-lywydd
Trystan Lewis
Mae Trystan yn raddedig o Brifysgolion Cymru Aberystwyth a Lerpwl.
Ymunodd â’r côr pan yn 16eg oed ac ymgymerodd a swyddogaeth Cyfarwyddwr Cerdd y Côr yn 2001; swydd a ddaliodd hyd ei ymddiswyddiad yn 2016. Yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr ennilliodd y côr ddwywaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru ac yn derfynolwyr yng Nghystadleuaeth Côrau y BBC.
Mae yn briod â Llinos ac mae ganddynt dri o blant